Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (192) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 2 i 14. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 3, 12 a 13 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.24
Gofynnwyd cwestiynau 1, 3 i 7 a 9 i 15. Tynnwyd cwestiynau 2 ac 8 yn ôl.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 15.01
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynigion hynod arwyddocaol yn yr ymgynghoriad papur gwyn ar iechyd cyhoeddus, yn dilyn y sylw yng nghyfryngau’r DU a’r datganiad ysgrifenedig bore heddiw?
3 Cynnig i ddiwygio Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) (2010)
Dechreuodd yr eitem am 15.13
NDM5481 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 5(1) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010:
Yn penderfynu bod Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 yn cael ei diwygio fel nad yw'r swyddi na'r disgrifiadau canlynol o unigolion bellach wedi eu hanghymhwyso o aelodaeth o Fwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
a) Aelod o Dy'r Arglwyddi;
b) Unigolyn a oedd yn aelod o’r naill neu’r llall o'r paneli a benodwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu cyflogau a lwfansau Aelodau Cynulliad yn unol â phenderfyniadau Comisiwn y Cynulliad dyddiedig 4 Gorffennaf 2007 ac 8 Mai 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.14
NDM5487 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Atodlen 1, paragraff 1, i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a Rheol Sefydlog 10.5:
Yn cytuno i enwebu Nicholas Bennett er mwyn ei benodi yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i rywogaethau goresgynnol estron
Dechreuodd yr eitem am 15.18
NDM5482 Alun Ffred Jones (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i Rywogaethau Goresgynnol Estron a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5484 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;
2. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r rôl y mae Uned Gyflawni'r Prif Weinidog yn ei chwarae o ran cyflawni’r dangosyddion hyn;
3. Yn gresynu at fethiant ymddangosiadol yr Uned Gyflawni i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn well yn achos cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
37 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi canfyddiadau adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus o ran dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dangosyddion ystadegol a thargedau ochr yn ochr â holl strategaethau a pholisïau’r Llywodraeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5484 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;
2. Yn nodi canfyddiadau adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus o ran dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;
3. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r rôl y mae Uned Gyflawni'r Prif Weinidog yn ei chwarae o ran cyflawni’r dangosyddion hyn;
4. Yn gresynu at fethiant ymddangosiadol yr Uned Gyflawni i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn well yn achos cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
7 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.53
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5485 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd un o bob 10 o blant a'r glasoed yn dioddef o broblem iechyd meddwl ac yn cydnabod pwysigrwydd ymyriad cynnar i gynorthwyo pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.
2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chanfyddiadau allweddol o adolygiad 2009 o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ac yn nodi'r pryderon sylweddol yn adolygiad dilynol 2013 o faterion diogelwch.
3. Yn gresynu bod nifer y bobl ifanc sy'n aros mwy na 14 wythnos i gael gwasanaethau seiciatrig plant a'r glasoed wedi cynyddu bron bedair gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, o 199 ym mis Ionawr 2013 i 736 ym mis Ionawr 2014.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) mynd i'r afael â'r amrywiad annheg o ran argaeledd a hygyrchedd CAMHS yng Nghymru;
b) ymchwilio i'r amseroedd aros rhwng asesiad cyntaf plentyn neu unigolyn ifanc gyda CAMHS a'u hatgyfeirio dilynol i wasanaeth;
c) adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer unedau cleifion mewnol CAMHS a lleoliadau y tu allan i ardaloedd;
d) cyhoeddi ystadegau aildderbyn yn rheolaidd i helpu i lywio tueddiadau yn y system rhyddhau cleifion;
e) sicrhau bod yr holl staff clinigol yn CAMHS wedi cael gwiriadau diogelwch priodol;
f) sefydlu gweithdrefn gadarnach i fyrddau iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl i oedolion;
g) egluro statws y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth;
h) ystyried cyflwyno addysg iechyd meddwl yn y cwricwlwm ysgol i godi ymwybyddiaeth a helpu i fynd i'r afael â materion o ran stigma; a
i) cyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau parhad triniaeth yn y pontio rhwng CAMHS a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion, gan gynnwys system rhannu gwybodaeth wedi ei symleiddio rhwng darparwyr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
37 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn cydnabod y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraethau olynol yng Nghymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc; a
3. Yn ategu’r dull partneriaeth, lle y gwelir Llywodraeth Cymru, iechyd, addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd fel partneriaid i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ddarparu gwasanaethau effeithiol yn y maes hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
8 |
16 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi mynegi pryder dro ar ôl tro ynghylch y gwasanaethau cymorth i blant a’r glasoed sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu fod gan y toriadau termau real i'r gyllideb iechyd botensial i lesteirio gallu Byrddau Iechyd Lleol Cymru i gyflawni gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
37 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl ac yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi gwybodaeth i ddangos ei bod yn monitro ac yn cyflawni'r ymrwymiad hwn a sut y mae'n effeithio ar wasanaethau CAMHS.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5485 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd un o bob 10 o blant a'r glasoed yn dioddef o broblem iechyd meddwl ac yn cydnabod pwysigrwydd ymyriad cynnar i gynorthwyo pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.
2. Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi mynegi pryder dro ar ôl tro ynghylch y gwasanaethau cymorth i blant a’r glasoed sydd â phroblemau iechyd meddwl.
3. Yn cydnabod y camau sy’n cael
eu cymryd gan Lywodraethau olynol yng Nghymru i wella gwasanaethau
iechyd meddwl i bobl ifanc;
4. Yn ategu’r dull partneriaeth, lle y gwelir Llywodraeth Cymru, iechyd, addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd fel partneriaid i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ddarparu gwasanaethau effeithiol yn y maes hwn;a
5. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl ac yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi gwybodaeth i ddangos ei bod yn monitro ac yn cyflawni'r ymrwymiad hwn a sut y mae'n effeithio ar wasanaethau CAMHS.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
4 |
20 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.48
8 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.52
NDM5483 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Aros ar y Cledrau: Cynnal Cysylltiadau Rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru
Pwysigrwydd cysylltiadau rheilffyrdd rhwng Gogledd Cymru a'r ganolfan HS2 yn Crewe, ynghyd â'r potensial am wella'r capasiti o Wrecsam ac Arfordir Gogledd Cymru i Lerpwl a Manceinion.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.12
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 29 Ebrill 2014